Marc 15:8-23 beibl.net 2015 (BNET)

8. Felly dyma'r dyrfa'n mynd at Peilat a gofyn iddo wneud yn ôl ei arfer.

9. “Beth am i mi ryddhau hwn i chi, ‛Brenin yr Iddewon‛?” meddai Peilat.

10. (Roedd yn gwybod fod y prif offeiriaid wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.)

11. Ond dyma'r prif offeiriaid yn cyffroi'r dyrfa a'u cael i ofyn i Peilat ryddhau Barabbas yn ei le.

12. “Felly beth dw i i'w wneud gyda'r un dych chi'n ei alw'n ‛Frenin yr Iddewon‛?” gofynnodd Peilat.

13. A dyma nhw'n dechrau gweiddi, “Croeshoelia fe!”

14. “Pam?” meddai Peilat, “Beth mae wedi ei wneud o'i le?”Ond dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uwch, “Croeshoelia fe!”

15. Gan ei fod am blesio'r dyrfa dyma Peilat yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. Wedyn gorchmynnodd fod Iesu i gael ei chwipio, ac yna ei ddedfrydu i gael ei groeshoelio.

16. Dyma'r milwyr Rhufeinig yn mynd â Iesu i'r iard yn y palas (hynny ydy, Pencadlys y llywodraethwr) a galw'r holl fintai at ei gilydd.

17. Dyma nhw'n rhoi clogyn porffor amdano, ac yn plethu drain i wneud coron i'w rhoi ar ei ben.

18. Wedyn dyma nhw'n dechrau ei saliwtio, “Eich mawrhydi! Brenin yr Iddewon!”

19. Roedden nhw'n ei daro ar ei ben gyda gwialen drosodd a throsodd, ac yn poeri arno. Wedyn roedden nhw'n mynd ar eu gliniau o'i flaen ac yn esgus talu teyrnged iddo.

20. Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw'n tynnu'r clogyn porffor oddi arno a'i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw'n ei arwain allan i gael ei groeshoelio.

21. Roedd dyn o Cyrene o'r enw Simon yn digwydd mynd heibio (tad Alecsander a Rwffus) – roedd ar ei ffordd i mewn i'r ddinas. A dyma'r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu.

22. Dyma nhw'n dod â Iesu i Golgotha (sy'n golygu ‛Lle y Benglog‛),

23. a dyma nhw'n cynnig gwin wedi ei gymysgu â chyffur iddo, ond gwrthododd ei gymryd.

Marc 15