Marc 15:20-33 beibl.net 2015 (BNET)

20. Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw'n tynnu'r clogyn porffor oddi arno a'i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw'n ei arwain allan i gael ei groeshoelio.

21. Roedd dyn o Cyrene o'r enw Simon yn digwydd mynd heibio (tad Alecsander a Rwffus) – roedd ar ei ffordd i mewn i'r ddinas. A dyma'r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu.

22. Dyma nhw'n dod â Iesu i Golgotha (sy'n golygu ‛Lle y Benglog‛),

23. a dyma nhw'n cynnig gwin wedi ei gymysgu â chyffur iddo, ond gwrthododd ei gymryd.

24. Ar ôl ei hoelio ar y groes dyma nhw'n gamblo i weld pwy fyddai'n cael ei ddillad.

25. Naw o'r gloch y bore oedd hi pan wnaethon nhw ei groeshoelio.

26. Roedd arwydd ysgrifenedig yn dweud beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn. Y geiriau ar yr arwydd oedd: BRENIN YR IDDEWON.

27. Cafodd dau leidr eu croeshoelio yr un pryd, un bob ochr iddo.

29. Roedd y bobl oedd yn pasio heibio yn gwneud sbort am ei ben, ac yn hyrddio enllibion ato, “Felly! Ti sy'n mynd i ddinistrio'r deml a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod!?

30. Tyrd yn dy flaen! Achub dy hun oddi ar y groes yna!”

31. Roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno hefyd yn cael sbort ymhlith ei gilydd. “Roedd e'n achub pobl eraill,” medden nhw, “ond dydy e ddim yn gallu achub ei hun!

32. Beth am i ni gael gweld y Meseia yma, Brenin Israel, yn dod i lawr oddi ar y groes. Gwnawn ni gredu wedyn!” Roedd hyd yn oed y rhai oedd wedi eu croeshoelio gydag e yn ei sarhau.

33. O ganol dydd hyd dri o'r gloch y p'nawn aeth yn hollol dywyll drwy'r wlad i gyd.

Marc 15