Marc 15:2-15 beibl.net 2015 (BNET)

2. Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?”“Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu.

3. Roedd y prif offeiriaid yn ei gyhuddo o bob math o bethau,

4. felly gofynnodd Peilat iddo eto, “Oes gen ti ddim i'w ddweud? Edrych cymaint o bethau maen nhw'n dy gyhuddo di o'u gwneud.”

5. Ond wnaeth Iesu ddim ateb o gwbl. Doedd y peth yn gwneud dim sens i Peilat.

6. Adeg y Pasg roedd hi'n draddodiad i ryddhau un carcharor – un oedd y bobl yn ei ddewis.

7. Roedd dyn o'r enw Barabbas yn y carchar – un o'r terfysgwyr oedd yn euog o lofruddiaeth adeg y gwrthryfel.

8. Felly dyma'r dyrfa'n mynd at Peilat a gofyn iddo wneud yn ôl ei arfer.

9. “Beth am i mi ryddhau hwn i chi, ‛Brenin yr Iddewon‛?” meddai Peilat.

10. (Roedd yn gwybod fod y prif offeiriaid wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.)

11. Ond dyma'r prif offeiriaid yn cyffroi'r dyrfa a'u cael i ofyn i Peilat ryddhau Barabbas yn ei le.

12. “Felly beth dw i i'w wneud gyda'r un dych chi'n ei alw'n ‛Frenin yr Iddewon‛?” gofynnodd Peilat.

13. A dyma nhw'n dechrau gweiddi, “Croeshoelia fe!”

14. “Pam?” meddai Peilat, “Beth mae wedi ei wneud o'i le?”Ond dyma nhw'n dechrau gweiddi'n uwch, “Croeshoelia fe!”

15. Gan ei fod am blesio'r dyrfa dyma Peilat yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. Wedyn gorchmynnodd fod Iesu i gael ei chwipio, ac yna ei ddedfrydu i gael ei groeshoelio.

Marc 15