19. Roedden nhw'n ei daro ar ei ben gyda gwialen drosodd a throsodd, ac yn poeri arno. Wedyn roedden nhw'n mynd ar eu gliniau o'i flaen ac yn esgus talu teyrnged iddo.
20. Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw'n tynnu'r clogyn porffor oddi arno a'i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw'n ei arwain allan i gael ei groeshoelio.
21. Roedd dyn o Cyrene o'r enw Simon yn digwydd mynd heibio (tad Alecsander a Rwffus) – roedd ar ei ffordd i mewn i'r ddinas. A dyma'r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu.
22. Dyma nhw'n dod â Iesu i Golgotha (sy'n golygu ‛Lle y Benglog‛),
23. a dyma nhw'n cynnig gwin wedi ei gymysgu â chyffur iddo, ond gwrthododd ei gymryd.
24. Ar ôl ei hoelio ar y groes dyma nhw'n gamblo i weld pwy fyddai'n cael ei ddillad.
25. Naw o'r gloch y bore oedd hi pan wnaethon nhw ei groeshoelio.
26. Roedd arwydd ysgrifenedig yn dweud beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn. Y geiriau ar yr arwydd oedd: BRENIN YR IDDEWON.