Marc 15:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn gynnar iawn yn y bore, dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, gyda'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Sanhedrin cyfan, yn penderfynu beth i'w wneud. Dyma nhw'n rhwymo Iesu a'i drosglwyddo i Peilat.

2. Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?”“Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu.

3. Roedd y prif offeiriaid yn ei gyhuddo o bob math o bethau,

4. felly gofynnodd Peilat iddo eto, “Oes gen ti ddim i'w ddweud? Edrych cymaint o bethau maen nhw'n dy gyhuddo di o'u gwneud.”

5. Ond wnaeth Iesu ddim ateb o gwbl. Doedd y peth yn gwneud dim sens i Peilat.

6. Adeg y Pasg roedd hi'n draddodiad i ryddhau un carcharor – un oedd y bobl yn ei ddewis.

7. Roedd dyn o'r enw Barabbas yn y carchar – un o'r terfysgwyr oedd yn euog o lofruddiaeth adeg y gwrthryfel.

8. Felly dyma'r dyrfa'n mynd at Peilat a gofyn iddo wneud yn ôl ei arfer.

9. “Beth am i mi ryddhau hwn i chi, ‛Brenin yr Iddewon‛?” meddai Peilat.

10. (Roedd yn gwybod fod y prif offeiriaid wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.)

11. Ond dyma'r prif offeiriaid yn cyffroi'r dyrfa a'u cael i ofyn i Peilat ryddhau Barabbas yn ei le.

Marc 15