23. Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto a'i basio iddyn nhw, a dyma nhw i gyd yn yfed ohono.
24. “Dyma fy ngwaed,” meddai, “sy'n selio ymrwymiad Duw i'w bobl. Mae'n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl.
25. Credwch chi fi, fydda i ddim yn yfed gwin eto, nes daw'r diwrnod hwnnw pan fydda i'n yfed o'r newydd pan fydd Duw yn teyrnasu.”
26. Wedyn ar ôl canu emyn, dyma nhw'n mynd allan i Fynydd yr Olewydd.
27. “Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i,” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i'n taro'r bugail, a bydd y defaid yn mynd ar chwâl.’
28. Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw af i o'ch blaen chi i Galilea.”
29. “Wna i byth droi cefn arnat ti!” meddai Pedr wrtho. “Hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!”
30. “Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod yn fy nabod i!”
31. Ond roedd Pedr yn mynnu, “Na! wna i byth wadu mod i'n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda thi!” Ac roedd y lleill yn dweud yr un peth.
32. Dyma Iesu'n mynd gyda'i ddisgyblion i le o'r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i'n mynd i weddïo.”
33. Aeth a Pedr, Iago ac Ioan gydag e, a dechreuodd brofi dychryn a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu.
34. “Mae'r tristwch dw i'n ei deimlo yn ddigon i'm lladd i,” meddai wrthyn nhw. “Arhoswch yma a gwylio.”
35. Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar lawr a gweddïo i'r profiad ofnadwy oedd o'i flaen fynd i ffwrdd petai hynny'n bosib.
36. “Abba! Dad!” meddai, “Mae popeth yn bosib i ti. Cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”
37. Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Simon, wyt ti'n cysgu? Allet ti ddim cadw golwg am un awr fechan?
38. Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi'ch profi. Mae'r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.”
39. Yna aeth Iesu i ffwrdd a gweddïo'r un peth eto.
40. Ond pan ddaeth yn ôl roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw'n methu'n lân â chadw eu llygaid ar agor. Doedden nhw ddim yn gwybod beth i'w ddweud.
41. Pan ddaeth yn ôl y drydedd waith, meddai wrthyn nhw, “Dych chi'n cysgu eto? Dal i orffwys? Dyna ni, mae'r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid.