15. Bydd yn mynd â chi i ystafell fawr i fyny'r grisiau wedi ei pharatoi'n barod. Gwnewch swper i ni yno.”
16. Felly, i ffwrdd â'r disgyblion i'r ddinas, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw'n paratoi swper y Pasg yno.
17. Yn gynnar y noson honno aeth Iesu yno gyda'r deuddeg disgybl.
18. Tra roedden nhw'n bwyta, dyma Iesu'n dweud, “Wir i chi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i. Un ohonoch chi sy'n bwyta gyda mi yma.”
19. Dyma nhw'n mynd yn drist iawn, a dweud un ar ôl y llall, “Dim fi ydy'r un, nage?”
20. “Un ohonoch chi'r deuddeg,” meddai Iesu, “Un ohonoch chi sy'n bwyta yma, ac yn trochi ei fara yn y ddysgl saws gyda mi.
21. Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i! Byddai'n well arno petai erioed wedi cael ei eni!”
22. Tra roedden nhw'n bwyta dyma Iesu'n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma” meddai, “Dyma fy nghorff i.”
23. Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto a'i basio iddyn nhw, a dyma nhw i gyd yn yfed ohono.