Marc 13:17-33 beibl.net 2015 (BNET)

17. Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy'n magu plant bach bryd hynny!

18. Gweddïwch y bydd ddim yn digwydd yn y gaeaf,

19. achos bryd hynny bydd argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o'r blaen – ers i Dduw greu'r byd! A fydd dim byd tebyg yn y dyfodol chwaith!

20. Oni bai i'r Arglwydd ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond mae'n gwneud hynny er mwyn y bobl mae wedi eu dewis iddo'i hun.

21. Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy'r Meseia!’ neu, ‘Edrych! Dacw fe!’ peidiwch credu'r peth.

22. Bydd llawer i ‛Feseia‛ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw'n twyllo'r bobl hynny mae Duw wedi eu dewis petai'r fath beth yn bosib!

23. Felly gwyliwch! Dw i wedi dweud hyn i gyd ymlaen llaw.

24. “Ond bryd hynny, ar ôl yr argyfwng, ‘Bydd yr haul yn tywyllu,a'r lleuad yn peidio rhoi golau;

25. bydd y sêr yn syrthio o'r awyr, a'r planedau yn ansefydlog.’

26. “Bryd hynny bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod mewn cymylau gyda grym ac ysblander mawr.

27. Yna bydd yn anfon yr angylion i gasglu'r rhai mae wedi eu dewis o bob rhan o'r byd.

28. “Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae'r brigau'n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos.

29. Felly'r un fath, pan fyddwch yn gweld y pethau yma'n digwydd, byddwch yn gwybod ei fod ar fin dod yn ôl – reit tu allan i'r drws!

30. Credwch chi fi, bydd pobl y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd.

31. Bydd yr awyr a'r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i'n ei ddweud yn aros am byth.

32. “Does neb ond y Tad ei hun yn gwybod y dyddiad a pha amser o'r dydd y bydd hyn yn digwydd – dydy'r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun!

33. Gwyliwch eich hunain! Cadwch yn effro! Dych chi ddim yn gwybod pryd fydd e'n digwydd.

Marc 13