14. “Pan welwch ‘yr eilun ffiaidd sy'n dinistrio’ wedi ei osod lle na ddylai fod (rhaid i'r un sy'n darllen ddeall hyn!), yna dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd.
15. Fydd dim cyfle i rywun sydd y tu allan i'w dŷ fynd i mewn i nôl unrhyw beth.
16. A ddylai neb sydd allan yn y maes fynd adre i nôl ei gôt hyd yn oed.
17. Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy'n magu plant bach bryd hynny!
18. Gweddïwch y bydd ddim yn digwydd yn y gaeaf,
19. achos bryd hynny bydd argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o'r blaen – ers i Dduw greu'r byd! A fydd dim byd tebyg yn y dyfodol chwaith!
20. Oni bai i'r Arglwydd ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond mae'n gwneud hynny er mwyn y bobl mae wedi eu dewis iddo'i hun.
21. Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy'r Meseia!’ neu, ‘Edrych! Dacw fe!’ peidiwch credu'r peth.
22. Bydd llawer i ‛Feseia‛ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw'n twyllo'r bobl hynny mae Duw wedi eu dewis petai'r fath beth yn bosib!
23. Felly gwyliwch! Dw i wedi dweud hyn i gyd ymlaen llaw.
24. “Ond bryd hynny, ar ôl yr argyfwng, ‘Bydd yr haul yn tywyllu,a'r lleuad yn peidio rhoi golau;
25. bydd y sêr yn syrthio o'r awyr, a'r planedau yn ansefydlog.’
26. “Bryd hynny bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod mewn cymylau gyda grym ac ysblander mawr.
27. Yna bydd yn anfon yr angylion i gasglu'r rhai mae wedi eu dewis o bob rhan o'r byd.
28. “Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae'r brigau'n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos.
29. Felly'r un fath, pan fyddwch yn gweld y pethau yma'n digwydd, byddwch yn gwybod ei fod ar fin dod yn ôl – reit tu allan i'r drws!