39. Mae'n rhaid iddyn nhw gael y seddi gorau yn y synagogau, ac eistedd ar y bwrdd uchaf mewn gwleddoedd.
40. Maen nhw'n dwyn popeth oddi ar wragedd gweddwon ac wedyn yn ceisio rhoi'r argraff eu bod nhw'n dduwiol gyda'u gweddïau hir! Bydd pobl fel nhw yn cael eu cosbi'n llym.”
41. Eisteddodd Iesu gyferbyn â'r blychau casglu lle roedd pobl yn cyfrannu arian i drysorfa'r deml, a gwylio'r y dyrfa yn rhoi eu harian yn y blychau. Roedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi arian mawr.
42. Ond yna daeth gwraig weddw dlawd a rhoi dwy geiniog i mewn (oedd yn werth dim byd bron).
43. Dyma Iesu'n galw ei ddisgyblion ato a dweud, “Credwch chi fi, mae'r wraig weddw dlawd yna wedi rhoi mwy nag unrhyw un arall.
44. Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben. Ond rhoddodd hon y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”