Marc 11:29-33 beibl.net 2015 (BNET)

29. Atebodd Iesu, “Gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi. Atebwch chi hwn, ac ateba i'ch cwestiwn chi.

30. Dwedwch wrtho i – Ai Duw anfonodd Ioan i fedyddio neu ddim?”

31. Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu felly?’

32. Ond allwn ni byth ddweud ‘Na’ …” (Roedd ganddyn nhw ofn y bobl, am fod pawb yn meddwl fod Ioan yn broffwyd.)

33. Felly dyma nhw'n gwrthod ateb, “Dŷn ni ddim yn gwybod,” medden nhw.“Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu.

Marc 11