14. “Fydd neb yn bwyta dy ffrwyth di byth eto!” meddai Iesu. Clywodd y disgyblion beth ddwedodd e.
15. Pan gyrhaeddodd Iesu Jerwsalem, aeth i gwrt y deml a dechrau gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod.
16. Yna gwrthododd adael i unrhyw un gario pethau i'w gwerthu i mewn i'r deml.
17. Yna dechreuodd eu dysgu, “Onid ydy'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.’?Ond dych chi wedi troi'r lle yn ‘guddfan i ladron’!”
18. Clywodd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith beth ddwedodd e, a mynd ati i geisio dod o hyd i ffordd i'w ladd. Roedden nhw'n ei weld yn fygythiad i'w hawdurdod, am fod y bobl wedi eu syfrdanu gan ei eiriau.
19. Pan ddechreuodd hi nosi, dyma Iesu a'i ddisgyblion yn gadael y ddinas.
20. Y bore wedyn roedden nhw'n pasio'r goeden ffigys eto. Roedd hi wedi gwywo'n llwyr!
21. Cofiodd Pedr eiriau Iesu'r diwrnod cynt, ac meddai, “Rabbi, edrych! Mae'r goeden wnest ti ei melltithio wedi gwywo!”
22. “Rhaid i chi gredu yn Nuw,” meddai Iesu.
23. “Credwch chi fi, does ond rhaid i chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i'r môr’ – heb amau o gwbl, dim ond credu y gwnaiff ddigwydd – a bydd yn digwydd!
24. Felly dw i'n dweud wrthoch chi, cewch beth bynnag dych chi'n gofyn amdano wrth weddïo, dim ond i chi gredu y byddwch yn ei dderbyn.
25. Ond cyn gweddïo'n gyhoeddus, rhaid i chi faddau i unrhyw un sydd wedi gwneud rhywbeth yn eich erbyn. Wedyn bydd eich Tad yn y nefoedd yn maddau'ch pechodau chi.”
27. Dyma nhw'n cyrraedd yn ôl i Jerwsalem. Pan oedd Iesu'n cerdded o gwmpas y deml, dyma'r prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato,
28. a gofyn iddo “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy roddodd yr awdurdod i ti?”
29. Atebodd Iesu, “Gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi. Atebwch chi hwn, ac ateba i'ch cwestiwn chi.