Marc 11:10-22 beibl.net 2015 (BNET)

10. “Mae teyrnas ein cyndad Dafydd wedi ei bendithio!”“Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!”

11. Dyma Iesu'n mynd i mewn i Jerwsalem ac i'r deml. Edrychodd o gwmpas ar bopeth oedd yno cyn gadael. Gan ei bod yn mynd yn hwyr, aeth yn ôl i Bethania gyda'r deuddeg disgybl.

12. Y diwrnod wedyn, wrth adael Bethania, roedd Iesu eisiau bwyd.

13. Gwelodd goeden ffigys ddeiliog yn y pellter, ac aeth i edrych rhag ofn bod ffrwyth arni. Ond doedd dim byd ond dail, am ei bod hi ddim yr adeg iawn o'r flwyddyn i'r ffigys fod yn barod.

14. “Fydd neb yn bwyta dy ffrwyth di byth eto!” meddai Iesu. Clywodd y disgyblion beth ddwedodd e.

15. Pan gyrhaeddodd Iesu Jerwsalem, aeth i gwrt y deml a dechrau gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod.

16. Yna gwrthododd adael i unrhyw un gario pethau i'w gwerthu i mewn i'r deml.

17. Yna dechreuodd eu dysgu, “Onid ydy'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.’?Ond dych chi wedi troi'r lle yn ‘guddfan i ladron’!”

18. Clywodd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith beth ddwedodd e, a mynd ati i geisio dod o hyd i ffordd i'w ladd. Roedden nhw'n ei weld yn fygythiad i'w hawdurdod, am fod y bobl wedi eu syfrdanu gan ei eiriau.

19. Pan ddechreuodd hi nosi, dyma Iesu a'i ddisgyblion yn gadael y ddinas.

20. Y bore wedyn roedden nhw'n pasio'r goeden ffigys eto. Roedd hi wedi gwywo'n llwyr!

21. Cofiodd Pedr eiriau Iesu'r diwrnod cynt, ac meddai, “Rabbi, edrych! Mae'r goeden wnest ti ei melltithio wedi gwywo!”

22. “Rhaid i chi gredu yn Nuw,” meddai Iesu.

Marc 11