47. Pan ddeallodd mai Iesu o Nasareth oedd yno, dechreuodd weiddi, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”
48. “Cau dy geg!” meddai rhai o'r bobl wrtho. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi'n uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”
49. Dyma Iesu'n stopio, “Dwedwch wrtho am ddod yma,” meddai. Felly dyma nhw'n galw'r dyn dall, “Hei! Cod dy galon! Mae'n galw amdanat ti. Tyrd!”
50. Felly taflodd y dyn dall ei glogyn i ffwrdd, neidio ar ei draed a mynd at Iesu.
51. Dyma Iesu'n gofyn iddo, “Beth ga i wneud i ti?”“Rabbwni,” atebodd y dyn dall, “Dw i eisiau gallu gweld.”
52. Yna dwedodd Iesu, “Dos, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” Yn sydyn roedd y dyn yn gweld, a dilynodd Iesu ar hyd y ffordd.