Marc 10:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna gadawodd Iesu'r fan honno, a mynd i Jwdea a'r ardal yr ochr draw i'r Iorddonen. Unwaith eto daeth tyrfa o bobl ato, ac fel arfer buodd wrthi'n eu dysgu.

2. Dyma rhyw Phariseaid yn dod ato i geisio'i faglu drwy ofyn: “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod yn iawn i ddyn ysgaru ei wraig?”

3. Atebodd Iesu, “Beth oedd y gorchymyn roddodd Moses i chi?”

4. “Dwedodd Moses ei fod yn iawn,” medden nhw, “Dim ond i ddyn roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon i ffwrdd.”

5. “Wyddoch chi pam ysgrifennodd Moses y ddeddf yna?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig!

6. Pan greodd Duw bopeth ar y dechrau cyntaf, gwnaeth bobl ‘yn wryw ac yn fenyw’.

7. ‘Felly bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam, ac yn cael ei uno â'i wraig,

8. a bydd y ddau yn dod yn un.’ Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned.

Marc 10