29. Yn syth ar ôl gadael y synagog, dyma nhw'n mynd i gartref Simon ac Andreas, gyda Iago ac Ioan.
30. Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn ei gwely yn dioddef o wres uchel. Dyma nhw'n dweud wrth Iesu,
31. ac aeth e ati a gafael yn ei llaw, a'i chodi ar ei thraed. Diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi'n codi a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw.
32. Wrth i'r haul fachlud y noson honno dechreuodd pobl ddod at Iesu gyda rhai oedd yn sâl neu wedi eu meddiannu gan gythreuliaid.
33. Roedd fel petai'r dref i gyd yno wrth y drws!
34. Dyma Iesu'n iacháu nifer fawr o bobl oedd yn dioddef o wahanol afiechydon. Bwriodd gythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedd y cythreuliaid yn gwybod yn iawn pwy oedd Iesu, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud gair.
35. Y bore wedyn cododd Iesu'n gynnar iawn. Roedd hi'n dal yn dywyll pan adawodd y tŷ, ac aeth i le unig i weddïo.
36. Dyma Simon a'r lleill yn mynd i edrych amdano,
37. ac ar ôl dod o hyd iddo dyma nhw'n dweud yn frwd: “Mae pawb yn edrych amdanat ti!”
38. Atebodd Iesu, “Gadewch i ni fynd yn ein blaenau i'r pentrefi nesa, i mi gael cyhoeddi'r newyddion da yno hefyd. Dyna pam dw i yma.”
39. Felly teithiodd o gwmpas Galilea, yn pregethu yn y synagogau a bwrw cythreuliaid allan o bobl.