Marc 1:21-28 beibl.net 2015 (BNET)

21. Wedyn dyma nhw'n mynd i Capernaum. Ar y dydd Saboth (pan oedd yr Iddewon yn addoli Duw), aeth Iesu i'r synagog a dechrau dysgu'r bobl.

22. Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu. Roedd yn wahanol i'r arbenigwyr yn y Gyfraith – roedd ganddo awdurdod oedd yn gwneud i bobl wrando arno.

23. Yna'n sydyn dyma ryw ddyn oedd yn y synagog yn rhoi sgrech uchel. (Roedd y dyn wedi ei feddiannu gan ysbryd drwg).

24. “Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i'n dinistrio ni. Dw i'n gwybod pwy wyt ti – Un Sanctaidd Duw!”

25. “Bydd ddistaw!” meddai Iesu'n ddig. “Tyrd allan ohono!”

26. Dyma'r ysbryd drwg yn gwneud i'r dyn ysgwyd yn ffyrnig, yna daeth allan ohono gyda sgrech uchel.

27. Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn i'w gilydd, “Beth sy'n mynd ymlaen? Mae'r hyn mae'n ei ddysgu yn newydd – mae ganddo'r fath awdurdod! Mae hyd yn oed ysbrydion drwg yn gorfod ufuddhau iddo.”

28. Roedd y sôn amdano yn lledu fel tân gwyllt drwy holl ardal Galilea.

Marc 1