Malachi 3:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Edrychwch, dw i'n anfon fy negesydd,a bydd e'n paratoi'r ffordd ar fy nghyfer i.Ac yn sydyn, bydd y Meistr dych chi'n ei geisioyn dod i'w deml.Ydy, mae angel yr ymrwymiad,dych chi'n honni ei hoffi, ar ei ffordd!”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

2. Ond pa obaith sydd ar y diwrnod pan ddaw?Pwy all oroesi pan ddaw i'r golwg?Achos mae e fel tân sy'n toddi metelneu sebon y golchwr.

3. Bydd yn eistedd fel un sy'n coethi arian;ac yn puro disgynyddion Lefi –bydd yn eu gloywi fel aur ac arian,er mwyn iddyn nhw gyflwyno offrymau iawn i'r ARGLWYDD.

4. Bryd hynny bydd offrymau Jwda a Jerwsalemyn plesio'r ARGLWYDDfel roedden nhw ers talwm,yn yr hen ddyddiau.

5. “Dw i'n mynd i ddod atoch chi i farnu;dw i'n barod i dystio yn erbynpawb sydd ddim yn fy mharchu –y rhai sy'n dewino ac yn godinebu,sy'n dweud celwydd ar lw,sy'n gormesu gweithwyr (trwy atal eu cyflog),yn cam-drin gweddwon a phlant amddifad,ac yn gwrthod eu hawliau i fewnfudwyr,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

6. “Ie, fi ydy'r ARGLWYDD, a dw i ddim wedi newid,a dych chi ddim wedi stopio bod yn blant i'ch tad Jacob!”

7. “Ers canrifoedd dych chi wedi bod yn troi cefn ar fy neddfau,a ddim yn eu cadw.Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.“Pam bod angen i ni droi'n ôl?” meddech chi.

Malachi 3