Malachi 2:6-10 beibl.net 2015 (BNET)

6. Roedd i ddysgu'r gwir,a doedd e ddim i dwyllo;Roedd i fyw yn gwbl ufudd i mi,ac i droi llawer o bobl oddi wrth ddrwg.

7. Roedd geiriau offeiriad i amddiffyn y gwir,a'r hyn mae'n ei ddysgu i roi arweiniad i bobl;gan ei fod yn negesydd i'r ARGLWYDD holl-bwerus.

8. Ond dych chi wedi troi cefn ar y ffordd iawn;dych chi wedi dysgu pethausydd wedi gwneud i lawer o bobl faglu.Dych chi wedi llygru'r ymrwymiad gyda Lefi,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

9. “Felly dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n raisy'n cael eu diystyru a'u bychanu gan bawb,am nad ydych chi wedi bod yn ffyddlon i mi,a dydy'ch dysgeidiaeth chi ddim wedi bendithio pobl.”

10. Onid un tad sydd gynnon ni i gyd?Onid yr un Duw wnaeth ein creu ni?Felly pam ydyn ni'n anffyddlon i'n gilyddac yn torri ymrwymiad ein tadau?

Malachi 2