Luc 8:42-55 beibl.net 2015 (BNET)

42. Roedd ei ferch fach ddeuddeg oed, oedd yn unig blentyn, yn marw. Wrth iddo fynd, roedd y dyrfa yn gwasgu o'i gwmpas.

43. Yn eu canol roedd gwraig oedd wedi bod â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd, a doedd neb yn gallu ei gwella.

44. Sleifiodd at Iesu o'r tu ôl iddo a chyffwrdd y taselau ar ei glogyn, a dyma'r gwaedu yn stopio'n syth.

45. “Pwy gyffyrddodd fi?” gofynnodd Iesu.Wrth i bawb wadu'r peth, dyma Pedr yn dweud, “Ond Feistr, mae'r bobl yma i gyd yn gwthio ac yn gwasgu o dy gwmpas di!”

46. Ond dyma Iesu'n dweud, “Mae rhywun wedi nghyffwrdd i; dw i'n gwybod fod nerth wedi llifo allan ohono i.”

47. Pan sylweddolodd y wraig ei bod hi ddim yn mynd i osgoi sylw, dyma hi'n dod a syrthio o'i flaen yn dal i grynu. Esboniodd o flaen pawb pam roedd hi wedi cyffwrdd Iesu, a'i bod wedi cael ei hiacháu y funud honno.

48. A dyma Iesu'n dweud wrthi, “Wraig annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti!”

49. Tra oedd Iesu'n siarad, roedd dyn o dŷ Jairus wedi cyrraedd, a dweud wrtho, “Mae dy ferch wedi marw, felly paid poeni'r athro ddim mwy.”

50. Pan glywodd Iesu hyn, meddai wrth Jairus, “Paid bod ofn; dalia i gredu, a bydd hi'n cael ei hiacháu.”

51. Pan gyrhaeddodd dŷ Jairus, dim ond Pedr, Ioan a Iago, a rhieni'r ferch fach gafodd fynd i mewn gydag e.

52. Roedd y lle'n llawn o bobl yn galaru ac udo crïo ar ei hôl. “Stopiwch y sŵn yma,” meddai Iesu, “dydy hi ddim wedi marw – cysgu mae hi!”

53. Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben, gan eu bod nhw'n gwybod ei bod hi wedi marw.

54. Dyma Iesu'n gafael yn llaw'r ferch fach a dweud, “Cod ar dy draed mhlentyn i!”

55. Daeth bywyd yn ôl i'w chorff a chododd ar ei thraed yn y fan a'r lle. Wedyn dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw am roi rhywbeth i'w fwyta iddi.

Luc 8