Luc 8:3-11 beibl.net 2015 (BNET)

3. Joanna, gwraig Chwsa (prif reolwr palas Herod); Swsana, a nifer o rai eraill oedd yn defnyddio eu harian i helpu i gynnal Iesu a'i ddisgyblion.

4. Dwedodd y stori yma pan oedd tyrfa fawr o bobl o wahanol drefi wedi casglu at ei gilydd:

5. “Aeth ffermwr allan i hau hadau. Wrth iddo wasgaru'r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr. Cafodd ei sathru dan draed, a dyma'r adar yn ei fwyta.

6. Dyma beth ohono yn syrthio ar dir creigiog, ond wrth ddechrau tyfu dyma fe'n gwywo am fod dim dŵr ganddo.

7. A dyma beth yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain yr un pryd a thagu'r planhigion.

8. Ond syrthiodd peth ohono ar bridd da. Tyfodd hwnnw, a rhoddodd gnwd oedd gan gwaith mwy na beth gafodd ei hau.”Ar ôl dweud hyn, galwodd allan yn uchel, “Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”

9. Yn nes ymlaen dyma'i ddisgyblion yn gofyn iddo beth oedd ystyr y stori.

10. Atebodd Iesu, “Dych chi'n cael gwybod beth ydy'r gyfrinach am deyrnasiad Duw, ond i eraill dw i ddim ond yn adrodd straeon, felly, ‘Er eu bod yn edrych, chân nhw ddim gweld; er eu bod yn gwrando, chân nhw ddim deall.’

11. “Dyma beth ydy ystyr y stori: Neges Duw ydy'r hadau.

Luc 8