27. Wrth i Iesu gamu allan o'r cwch i'r lan dyma ddyn o'r dref oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i'w gyfarfod. Doedd y dyn yma ddim wedi gwisgo dillad na byw mewn tŷ ers amser maith – roedd wedi bod yn byw yng nghanol y beddau.
28. Pan welodd Iesu, rhoddodd y dyn sgrech a syrthio i lawr o'i flaen tan weiddi nerth ei ben, “Gad di lonydd i mi, Iesu, mab y Duw Goruchaf! Dw i'n crefu arnat ti, paid poenydio fi!”
29. (Roedd Iesu newydd orchymyn i'r ysbryd drwg ddod allan o'r dyn. Ers amser hir roedd yr ysbryd wedi meistroli'r dyn yn llwyr. Roedd rhaid iddo gael ei warchod, gyda'i ddwylo a'i draed mewn cadwyni. Ond roedd yn llwyddo i ddianc o hyd, ac roedd y cythraul yn ei yrru allan i'r anialwch.)
30. A dyma Iesu'n gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di?”“Lleng,” atebodd, achos roedd llawer o gythreuliaid wedi mynd iddo.
31. Roedden nhw'n pledio'n daer ar i Iesu beidio gorchymyn iddyn nhw fynd i'r dyfnder tywyll.
32. Roedd cenfaint fawr o foch yn pori ar ochr bryn cyfagos, a dyma'r cythreuliaid yn pledio ar Iesu i adael iddyn nhw fynd i fyw yn y moch. Felly dyma Iesu'n rhoi caniatâd iddyn nhw.
33. Pan aeth y cythreuliaid allan o'r dyn a mynd i mewn i'r moch, dyma'r moch i gyd yn rhuthro i lawr y llechwedd serth i mewn i'r llyn, a boddi.
34. Pan welodd y rhai oedd yn gofalu am y moch beth ddigwyddodd, dyma nhw'n rhedeg i ffwrdd a dweud wrth bawb.