34. Ond wedyn dyma fi, Mab y Dyn yn dod, yn bwyta ac yn yfed fel pawb arall, a dyma chi'n dweud, ‘y bolgi! Meddwyn yn diota a stwffio'i hun! Ffrind i'r twyllwyr sy'n casglu trethi i Rufain ac i bechaduriaid ydy e!’
35. Gallwch nabod doethineb go iawn yn ôl pa mor gyson fydd pobl. Dych chi mor anghyson, mae'ch ffolineb chi'n amlwg!”
36. Roedd un o'r Phariseaid wedi gwahodd Iesu i swper, felly aeth Iesu i'w dŷ ac eistedd wrth y bwrdd.
37. Dyma wraig o'r dref oedd yn adnabyddus am ei bywyd anfoesol yn clywed fod Iesu yn cael pryd o fwyd yng nghartre'r Pharisead, ac aeth yno gyda blwch hardd yn llawn o bersawr.
38. Plygodd y tu ôl iddo wrth ei draed, yn crïo. Roedd ei dagrau yn gwlychu ei draed, felly sychodd nhw â'i gwallt a'u cusanu ac yna tywallt y persawr arnyn nhw.
39. Pan welodd y dyn oedd wedi gwahodd Iesu beth oedd yn digwydd, meddyliodd, “Petai'r dyn yma yn broffwyd byddai'n gwybod pa fath o wraig sy'n ei gyffwrdd – dydy hi'n ddim byd ond pechadures!”
40. Ond dyma Iesu'n dweud wrtho, “Simon, dw i eisiau dweud rhywbeth wrthot ti.” “Beth athro?” meddai.
41. “Roedd dau o bobl mewn dyled i fenthyciwr arian. Pum can denariws oedd dyled un, a hanner can denariws oedd dyled y llall.
42. Ond pan oedd y naill a'r llall yn methu ei dalu'n ôl, dyma'r benthyciwr yn canslo dyled y ddau! Felly, pa un o'r ddau wyt ti'n meddwl fydd yn ei garu fwyaf?”
43. “Mae'n debyg mai'r un gafodd y ddyled fwyaf wedi ei chanslo,” meddai Simon.“Rwyt ti'n iawn,” meddai Iesu.