21. Yr adeg yna roedd Iesu wedi bod wrthi'n iacháu llawer o bobl oedd yn dioddef o afiechydon a phoenau, a dylanwad ysbrydion drwg. Roedd wedi rhoi eu golwg yn ôl i lawer o bobl ddall hefyd.
22. Felly ei ateb iddyn nhw oedd, “Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wedi ei weld a'i glywed: Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy'n dioddef o'r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae'r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd!
23. Ac un peth arall: Mae bendith fawr i bwy bynnag sydd ddim yn colli hyder ynddo i.”
24. Ar ôl i negeswyr Ioan fynd, dechreuodd Iesu siarad â'r dyrfa am Ioan: “Sut ddyn aethoch chi allan i'r anialwch i'w weld? Brwynen wan yn cael ei chwythu i bob cyfeiriad gan y gwynt?
25. Na? Beth roeddech chi'n ei ddisgwyl? Dyn yn gwisgo dillad crand? Wrth gwrs ddim! Mewn palasau mae pobl grand yn byw!
26. Felly ai proffwyd aethoch chi allan i'w weld? Ie! A dw i'n dweud wrthoch chi ei fod e'n fwy na phroffwyd.
27. Dyma'r un mae'r ysgrifau sanctaidd yn sôn amdano: ‘Edrych! – dw i'n anfon fy negesydd o dy flaen di, i baratoi'r ffordd i ti.’
28. Dw i'n dweud wrthoch chi, mae Ioan yn fwy na neb arall sydd wedi byw erioed. Ond mae'r person lleia pwysig yn nheyrnas Dduw yn fwy nag e.”
29. (Roedd y bobl gyffredin glywodd neges Ioan, hyd yn oed y dynion sy'n casglu trethi i Rufain, yn cydnabod mai ffordd Duw oedd yn iawn – dyna pam gawson nhw eu bedyddio gan Ioan.
30. Ond roedd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi gwrthod gwneud beth oedd Duw eisiau, a doedden nhw ddim wedi cael eu bedyddio gan Ioan.)