4. Pan oedd wedi gorffen siarad dwedodd wrth Simon, “Dos â'r cwch allan lle mae'r dŵr yn ddwfn, a gollwng y rhwydi i ti gael dalfa o bysgod.”
5. “Meistr,” meddai Simon wrtho, “buon ni'n gweithio'n galed drwy'r nos neithiwr heb ddal dim byd! Ond am mai ti sy'n gofyn, gollynga i y rhwydi.”
6. Dyna wnaethon nhw a dyma nhw'n dal cymaint o bysgod nes i'r rhwydi ddechrau rhwygo.
7. Dyma nhw'n galw ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i'w helpu. Pan ddaeth y rheiny, cafodd y ddau gwch eu llenwi â chymaint o bysgod nes eu bod bron â suddo!
8. Pan welodd Simon Pedr beth oedd wedi digwydd, syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a dweud, “Dos i ffwrdd oddi wrtho i, Arglwydd; dw i'n ormod o bechadur!”
9. Roedd Simon a'i gydweithwyr wedi dychryn wrth weld faint o bysgod gafodd eu dal;
10. ac felly hefyd partneriaid Simon – Iago ac Ioan, meibion Sebedeus. Dyma Iesu'n dweud wrth Simon, “Paid bod ofn; o hyn ymlaen byddi di'n dal pobl yn lle pysgod.”
11. Felly ar ôl llusgo eu cychod i'r lan, dyma nhw'n gadael popeth i fynd ar ei ôl.
12. Yn un o'r trefi dyma Iesu'n cyfarfod dyn oedd â gwahanglwyf dros ei gorff i gyd. Pan welodd hwnnw Iesu, syrthiodd ar ei wyneb ar lawr a chrefu am gael ei iacháu, “Arglwydd, gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.”