21. Yna dwedodd, “Mae'r geiriau yma o'r ysgrifau sanctaidd wedi dod yn wir heddiw.”
22. Roedd pawb yn dweud pethau da amdano, ac yn rhyfeddu at y pethau gwych roedd yn eu dweud. “Onid mab Joseff ydy hwn?” medden nhw.
23. Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae'n siŵr y byddwch chi'n cyfeirio at yr hen ddywediad: ‘Iachâ dy hun, feddyg!’ hynny ydy, ‘y math o beth dŷn ni wedi ei glywed i ti eu gwneud yn Capernaum, gwna yma yn dy dref dy hun.’”
24. “Ond y gwir plaen ydy, does dim parch at broffwyd yn y dre lle cafodd ei fagu!
25. Gallwch fod yn reit siŵr fod llawer iawn o wragedd gweddwon yn Israel yn amser y proffwyd Elias. Wnaeth hi ddim glawio am dair blynedd a hanner ac roedd newyn trwm drwy'r wlad i gyd.
26. Ond chafodd Elias mo'i anfon at yr un ohonyn nhw. Cafodd ei anfon at wraig o wlad arall – gwraig weddw yn Sareffat yn ardal Sidon!
27. Ac roedd llawer o bobl yn Israel yn dioddef o'r gwahanglwyf pan oedd y proffwyd Eliseus yn fyw. Ond Naaman o wlad Syria oedd yr unig un gafodd ei iacháu!”
28. Roedd pawb yn y synagog wedi gwylltio wrth ei glywed yn dweud hyn.
29. Dyma nhw'n codi ar eu traed a gyrru Iesu allan o'r dref i ben y bryn roedd y dre wedi ei hadeiladu arno. Roedden nhw'n bwriadu ei daflu dros y clogwyn,
30. ond llwyddodd i fynd drwy ganol y dyrfa ac aeth ymlaen ar ei daith.
31. Aeth i Capernaum, un o drefi Galilea, a dechrau dysgu'r bobl yno ar y Saboth.