Luc 3:10-20 beibl.net 2015 (BNET)

10. “Felly, beth ddylen ni ei wneud?” gofynnodd y dyrfa.

11. Atebodd Ioan, “Os oes gynnoch chi ddwy gôt, rhowch un ohonyn nhw i berson tlawd sydd heb un o gwbl. A gwnewch yr un fath gyda bwyd.”

12. Roedd rhai oedd yn casglu trethi i'r Rhufeiniaid yn dod i gael eu bedyddio hefyd, a dyma nhw'n gofyn iddo, “Beth ddylen ni ei wneud, athro?”

13. “Peidio casglu mwy o arian nag y dylech chi,” meddai wrthyn nhw.

14. “A beth ddylen ni ei wneud?” meddai rhyw filwyr ddaeth ato.“Peidiwch dwyn arian oddi ar bobl”, oedd ateb Ioan iddyn nhw, “a pheidiwch cyhuddo pobl ar gam er mwyn gwneud arian. Byddwch yn fodlon ar eich cyflog.”

15. Roedd pobl yn teimlo fod rhywbeth mawr ar fin digwydd, a phawb yn dechrau meddwl tybed ai Ioan oedd y Meseia.

16. Ond ateb Ioan iddyn nhw i gyd oedd, “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i'ch bedyddio chi. Ond mae un llawer mwy grymus na fi yn dod yn fuan – rhywun sydd mor bwysig, fyddwn i ddim yn deilwng o fod yn gaethwas sy'n datod carrai ei sandalau hyd yn oed! Bydd hwnnw yn eich bedyddio chi gyda'r Ysbryd Glân a gyda thân.

17. Mae ganddo fforch nithio yn ei law i wahanu'r grawn a'r us. Bydd yn clirio'r llawr dyrnu, yn casglu'r gwenith i'w ysgubor ac yn llosgi'r us mewn tân sydd byth yn diffodd.”

18. Roedd Ioan yn dweud llawer o bethau eraill tebyg wrth annog y bobl a chyhoeddi'r newyddion da iddyn nhw.

19. Ond yna dyma Ioan yn ceryddu Herod, y llywodraethwr, yn gyhoeddus. Ei geryddu am ei berthynas gyda Herodias, gwraig ei frawd, ac am lawer o bethau drwg eraill roedd wedi eu gwneud.

20. A'r canlyniad oedd i Herod ychwanegu at weddill y drygioni a wnaeth drwy roi Ioan yn y carchar.

Luc 3