41. Dŷn ni'n haeddu cael ein cosbi am yr hyn wnaethon ni. Ond wnaeth hwn ddim byd o'i le.”
42. Yna meddai, “Iesu, cofia amdana i pan fyddi di'n teyrnasu.”
43. Dyma Iesu'n ateb, “Wir i ti – cei di ddod gyda mi i baradwys heddiw.”
44. Roedd hi tua chanol dydd erbyn hyn, ac aeth yn hollol dywyll drwy'r wlad i gyd hyd dri o'r gloch y p'nawn.
45. Roedd fel petai golau'r haul wedi diffodd! Dyna pryd wnaeth y llen hir oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner.
46. A dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, “Dad, dw i'n rhoi fy ysbryd yn dy ddwylo di,” ac ar ôl dweud hynny stopiodd anadlu a marw.
47. Pan welodd y capten milwrol oedd yno beth ddigwyddodd, dechreuodd foli Duw a dweud, “Roedd y dyn yma'n siŵr o fod yn ddieuog!”
48. A phan welodd y dyrfa oedd yno beth ddigwyddodd, dyma nhw'n troi am adre'n galaru.
49. Ond arhosodd ei ffrindiau agos i wylio o bell beth oedd yn digwydd – gan gynnwys y gwragedd oedd wedi ei ddilyn o Galilea.
50. Roedd yna ddyn o'r enw Joseff oedd yn dod o dref Arimathea yn Jwdea. Roedd yn ddyn da a gonest, ac yn aelod o'r Sanhedrin Iddewig,
51. ond doedd e ddim wedi cytuno â'r penderfyniad wnaeth yr arweinwyr eraill. Roedd Joseff yn ddyn oedd yn disgwyl i Dduw ddod i deyrnasu.
52. Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu.
53. Tynnodd y corff i lawr a'i lapio gyda lliain ac yna ei roi i orwedd mewn bedd newydd oedd wedi ei naddu yn y graig – doedd neb erioed wedi ei gladdu yno o'r blaen.
54. Roedd hi'n hwyr bnawn dydd Gwener a'r Saboth ar fin dechrau.