12. Cyn i hyn i gyd ddigwydd roedd Herod a Peilat wedi bod yn elynion, ond dyma nhw'n dod yn ffrindiau y diwrnod hwnnw.
13. Dyma Peilat yn galw'r prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, a'r bobl at ei gilydd,
14. a chyhoeddi ei ddedfryd: “Daethoch â'r dyn yma i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o fod yn arwain gwrthryfel. Dw i wedi ei groesholi o'ch blaen chi i gyd, a dw i'n ei gael yn ddieuog o'r holl gyhuddiadau.
15. Ac mae'n amlwg fod Herod wedi dod i'r un casgliad gan ei fod wedi ei anfon yn ôl yma. Dydy e ddim wedi gwneud unrhyw beth i haeddu marw.
16. Felly dysga i wers iddo â'r chwip ac yna ei ollwng yn rhydd.”
18. Dyma nhw i gyd yn gweiddi gyda'i gilydd, “Lladda fe! Gollwng Barabbas yn rhydd!”
19. (Roedd Barabbas yn y carchar am godi terfysg yn Jerwsalem ac am lofruddiaeth.)
20. Dyma Peilat yn eu hannerch nhw eto. Roedd e eisiau gollwng Iesu yn rhydd.
21. Ond roedden nhw wedi dechrau gweiddi drosodd a throsodd, “Croeshoelia fe! Croeshoelia fe!”
22. Gofynnodd iddyn nhw'r drydedd waith, “Pam? Beth mae wedi ei wneud o'i le? Dydy'r dyn ddim yn euog o unrhyw drosedd sy'n haeddu dedfryd o farwolaeth! Felly dysga i wers iddo â'r chwip ac yna ei ollwng yn rhydd.”
23. Ond roedd y dyrfa'n gweiddi'n uwch ac yn uwch, ac yn mynnu fod rhaid i Iesu gael ei groeshoelio, ac yn y diwedd cawson nhw eu ffordd.
24. Dyma Peilat yn penderfynu rhoi beth roedden nhw eisiau iddyn nhw.
25. Rhyddhaodd Barabbas, y dyn oedd yn y carchar am derfysg a llofruddiaeth, a dedfrydu Iesu i farwolaeth fel roedden nhw eisiau iddo wneud.
26. Wrth iddyn nhw arwain Iesu i ffwrdd roedd Simon o Cyrene ar ei ffordd i mewn i'r ddinas, a dyma nhw'n ei orfodi i gario croes Iesu.
27. Roedd tyrfa fawr o bobl yn ei ddilyn, gan gynnwys nifer o wragedd yn galaru ac wylofain.
28. Ond dyma Iesu'n troi ac yn dweud wrthyn nhw, “Ferched Jerwsalem, peidiwch crïo drosto i; crïwch drosoch eich hunain a'ch plant.
29. Mae'r amser yn dod pan fyddwch yn dweud, ‘Mae'r gwragedd hynny sydd heb blant wedi eu bendithio'n fawr! – y rhai sydd erioed wedi cario plentyn yn y groth na bwydo plentyn ar y fron!’
30. A ‘byddan nhw'n dweud wrth y mynyddoedd, “Syrthiwch arnon ni!” ac wrth y bryniau, “Cuddiwch ni!”’