5. Roedden nhw wrth eu bodd, a dyma nhw'n addo rhoi arian iddo.
6. Cytunodd yntau a dechrau edrych am gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw pan oedd y dyrfa ddim o gwmpas.
7. Daeth diwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw (hynny ydy, y diwrnod pan roedd rhaid aberthu oen y Pasg).
8. Dyma Iesu'n anfon Pedr ac Ioan yn eu blaenau i wneud y trefniadau. “Ewch i baratoi swper y Pasg i ni, er mwyn i ni i gyd gael bwyta gyda'n gilydd,” meddai wrthyn nhw.
9. “Ble rwyt ti am i ni fynd i'w baratoi?” medden nhw wrtho.
10. Atebodd e, “Wrth i chi fynd i mewn i'r ddinas bydd dyn yn dod i'ch cyfarfod yn cario llestr dŵr. Ewch ar ei ôl
11. i mewn i'r tŷ y bydd yn mynd iddo, a gofyn i'r perchennog, ‘Mae'r athro eisiau gwybod ble mae'r ystafell westai, iddo ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion.’
12. Bydd yn mynd â chi i fyny'r grisiau i ystafell fawr wedi ei pharatoi'n barod. Gwnewch swper i ni yno.”
13. I ffwrdd â nhw, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw'n paratoi swper y Pasg yno.
14. Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd, a'i apostolion gydag e.
15. Meddai wrthyn nhw, “Dw i wedi edrych ymlaen yn fawr at gael bwyta'r swper Pasg yma gyda chi cyn i mi ddioddef.
16. Dw i'n dweud wrthoch chi y bydda i ddim yn ei fwyta eto nes i'r cwbl gael ei gyflawni pan ddaw Duw i deyrnasu.”
17. Yna cymerodd gwpan o win, adrodd gweddi o ddiolch, ac yna dweud wrth ei ddisgyblion, “Cymerwch hwn a'i rannu rhyngoch.
18. Dw i'n dweud wrthoch chi, fydda i ddim yn yfed gwin eto nes i Dduw ddod i deyrnasu.”
19. Yna cymerodd dorth o fara, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Dyma fy nghorff i, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”
20. Wedyn ar ôl bwyta swper gafaelodd yn y cwpan eto, a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd drwy fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt ar eich rhan chi.
21. Ond mae'r un sy'n mynd i mradychu i yn eistedd wrth y bwrdd yma gyda mi.
22. Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw fel mae wedi ei drefnu, ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i!”
23. Yna dechreuodd y disgyblion drafod pwy ohonyn nhw fyddai'n gwneud y fath beth.
24. Ond yna dyma ddadl yn codi yn eu plith nhw ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y pwysica.