Luc 21:7-22 beibl.net 2015 (BNET)

7. A dyma nhw'n gofyn iddo, “Pryd mae hyn i gyd yn mynd i ddigwydd, Athro? Fydd unrhyw rybudd cyn i'r pethau yma ddigwydd?”

8. Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi. Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, a dweud, ‘Fi ydy'r Meseia’ a ‘Mae'r diwedd wedi dod’. Peidiwch eu dilyn nhw.

9. Pan fyddwch yn clywed am ryfeloedd a chwyldroadau, peidiwch dychryn. Mae'r pethau yma'n siŵr o ddigwydd gyntaf, ond fydd diwedd y byd ddim yn digwydd yn syth wedyn.”

10. Dwedodd wrthyn nhw, “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd.

11. Bydd daeargrynfeydd mawr, a newyn a heintiau mewn gwahanol leoedd, a digwyddiadau dychrynllyd eraill ac arwyddion o'r nefoedd yn rhybuddio pobl.

12. “Ond cyn i hyn i gyd ddigwydd, byddwch chi'n cael eich erlid a'ch cam-drin. Cewch eich llusgo o flaen y synagogau a'ch rhoi yn y carchar. Cewch eich cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi o flaen brenhinoedd a llywodraethwyr.

13. Ond bydd y cwbl yn gyfle i chi dystio amdana i.

14. Felly peidiwch poeni ymlaen llaw beth i'w ddweud wrth amddiffyn eich hunain.

15. Bydda i'n rhoi'r geiriau iawn i chi. Fydd gan y rhai sy'n eich gwrthwynebu chi ddim ateb!

16. Byddwch yn cael eich bradychu gan eich rhieni, eich brodyr a'ch chwiorydd, eich perthnasau eraill a'ch ffrindiau. Bydd rhai ohonoch chi yn cael eich lladd.

17. Bydd pawb yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi.

18. Ond byddwch chi'n hollol saff;

19. wrth sefyll yn gadarn y cewch chi fywyd.

20. “Byddwch chi'n gwybod fod Jerwsalem ar fin cael ei dinistrio pan welwch chi fyddinoedd yn ei hamgylchynu.

21. Bryd hynny dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd. Dylai pawb ddianc o'r ddinas, a ddylai neb yng nghefn gwlad fynd yno i chwilio am loches.

22. Dyna pryd y bydd Duw yn ei chosbi, a bydd y cwbl mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud am y peth yn dod yn wir.

Luc 21