1. Pan oedd yn y deml, sylwodd Iesu ar y bobl gyfoethog yn rhoi arian yn y blychau casglu at drysorfa'r deml.
2. Yna daeth gwraig weddw dlawd a rhoi dwy geiniog i mewn.
3. “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “mae'r wraig weddw dlawd yna wedi rhoi mwy yn y blwch na neb arall.
4. Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben; ond yn ei thlodi rhoddodd y wraig yna y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”
5. Roedd rhai o'i ddisgyblion yn tynnu sylw at waith cerrig hardd y deml a'r meini coffa oedd yn ei haddurno. Ond dyma Iesu'n dweud,
6. “Mae'r amser yn dod pan fydd y cwbl welwch chi yma yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi ei gadael yn ei lle.”
7. A dyma nhw'n gofyn iddo, “Pryd mae hyn i gyd yn mynd i ddigwydd, Athro? Fydd unrhyw rybudd cyn i'r pethau yma ddigwydd?”
8. Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi. Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, a dweud, ‘Fi ydy'r Meseia’ a ‘Mae'r diwedd wedi dod’. Peidiwch eu dilyn nhw.
9. Pan fyddwch yn clywed am ryfeloedd a chwyldroadau, peidiwch dychryn. Mae'r pethau yma'n siŵr o ddigwydd gyntaf, ond fydd diwedd y byd ddim yn digwydd yn syth wedyn.”