Luc 20:28-46 beibl.net 2015 (BNET)

28. “Athro,” medden nhw, “rhoddodd Moses y rheol yma i ni: os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i frawd y dyn hwnnw briodi'r weddw a chael plant yn ei le

29. Nawr, roedd saith brawd. Priododd yr hynaf, a buodd farw heb gael plant.

30-31. Dyma'r ail, ac yna'r trydydd yn priodi'r weddw. Yn wir, digwyddodd yr un peth gyda'r saith – wnaeth yr un ohonyn nhw adael plentyn ar ei ôl.

32. Dyma'r wraig yn marw wedyn hefyd.

33. Felly dyma'n cwestiwn ni: ‘Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pwy fydd hi?’ Roedd hi wedi bod yn wraig i'r saith ohonyn nhw!”

34. Atebodd Iesu, “Yn y bywyd yma mae pobl yn priodi.

35. Ond yn yr oes sydd i ddod, fydd pobl ddim yn priodi – sef y bobl hynny sy'n cael eu cyfri'n deilwng i fod yn rhan ohoni ac wedi codi yn ôl yn fyw.

36. A fyddan nhw ddim yn marw eto. Byddan nhw yr un fath â'r angylion yn hynny o beth. Maen nhw'n blant Duw wedi eu codi yn ôl i fywyd newydd.

37. A bydd y meirw'n dod yn ôl yn fyw! Mae hyd yn oed Moses yn dangos fod hynny'n wir! Yn yr hanes am y berth yn llosgi mae'n dweud mai'r Arglwydd Dduw ydy ‘Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob’.

38. Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw'r rhai sy'n fyw! Maen nhw i gyd yn fyw iddo fe!”

39. Dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ymateb, “Go dda, athro! Clywch, clywch!”

40. O hynny ymlaen doedd neb yn meiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.

41. Yna dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Pam maen nhw'n dweud fod y Meseia yn fab i Dafydd?

42. Mae Dafydd ei hun yn dweud yn Llyfr y Salmau: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd

43. nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”’

44. Mae Dafydd yn ei alw'n ‛Arglwydd‛! Felly sut mae'n gallu bod yn fab iddo?”

45. Tra roedd y bobl i gyd yn gwrando, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion,

46. “Gwyliwch yr arbenigwyr yn y Gyfraith. Maen nhw wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas yn swancio yn eu gwisgoedd swyddogol, ac yn hoffi cael pawb yn eu cyfarch ac yn talu sylw iddyn nhw yn sgwâr y farchnad. Mae'n rhaid iddyn nhw gael y seddi gorau yn y synagogau, ac eistedd ar y bwrdd uchaf mewn gwleddoedd.

Luc 20