23. Ond roedd Iesu'n gweld eu bod yn ceisio'i dwyllo.
24. “Dewch â darn arian yma,” meddai wrthyn nhw. “Llun pwy sydd arno? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?”“Cesar,” medden nhw.
25. “Felly,” meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.”
26. Felly roedden nhw wedi methu ei gael i ddweud unrhyw beth o'i le o flaen y bobl. Roedd ei ateb wedi eu syfrdanu'n llwyr – doedden nhw ddim yn gallu dweud dim.
27. Dyma rai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn i Iesu. (Nhw ydy'r arweinwyr Iddewig sy'n dweud fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.)
28. “Athro,” medden nhw, “rhoddodd Moses y rheol yma i ni: os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i frawd y dyn hwnnw briodi'r weddw a chael plant yn ei le
29. Nawr, roedd saith brawd. Priododd yr hynaf, a buodd farw heb gael plant.
30-31. Dyma'r ail, ac yna'r trydydd yn priodi'r weddw. Yn wir, digwyddodd yr un peth gyda'r saith – wnaeth yr un ohonyn nhw adael plentyn ar ei ôl.
32. Dyma'r wraig yn marw wedyn hefyd.
33. Felly dyma'n cwestiwn ni: ‘Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pwy fydd hi?’ Roedd hi wedi bod yn wraig i'r saith ohonyn nhw!”