Luc 2:22-37 beibl.net 2015 (BNET)

22. Pan oedd pedwar deg diwrnod wedi mynd heibio ers i'r bachgen gael ei eni, roedd y cyfnod o buro mae Cyfraith Moses yn sôn amdano wedi dod i ben. Felly aeth Joseff a Mair i Jerwsalem i gyflwyno eu mab cyntaf i'r Arglwydd

23. (Mae Cyfraith Duw yn dweud: “Os bachgen ydy'r plentyn cyntaf i gael ei eni, rhaid iddo gael ei gysegru i'r Arglwydd”

24. a hefyd fod rhaid offrymu aberth i'r Arglwydd – “pâr o durturod neu ddwy golomen”).

25. Roedd dyn o'r enw Simeon yn byw yn Jerwsalem – dyn da a duwiol. Roedd dylanwad yr Ysbryd Glân yn drwm ar ei fywyd, ac roedd yn disgwyl yn frwd i'r Meseia ddod i helpu Israel.

26. Roedd yr Ysbryd Glân wedi dweud wrtho y byddai'n gweld y Meseia cyn iddo fe farw.

27. A'r diwrnod hwnnw dyma'r Ysbryd yn dweud wrtho i fynd i'r deml. Felly pan ddaeth rhieni Iesu yno gyda'u plentyn i wneud yr hyn roedd y Gyfraith yn ei ofyn,

28. dyma Simeon yn cymryd y plentyn yn ei freichiau a dechrau moli Duw fel hyn:

29. “O Feistr Sofran! Gad i mi, dy was,bellach farw mewn heddwch!Dyma wnest ti ei addo i mi –

30. dw i wedi gweld yr Achubwr gyda fy llygaid fy hun.

31. Rwyt wedi ei roi i'r bobl i gyd;

32. yn olau er mwyn i genhedloedd eraill allu gweld,ac yn rheswm i bobl Israel dy foli di.”

33. Roedd Mair a Joseff yn rhyfeddu at y pethau oedd yn cael eu dweud am Iesu.

34. Yna dyma Simeon yn eu bendithio nhw, a dweud wrth Mair, y fam: “Bydd y plentyn yma yn achos cwymp i lawer yn Israel ac yn fendith i eraill. Bydd yn rhybudd sy'n cael ei wrthod,

35. a bydd yr hyn mae pobl yn ei feddwl go iawn yn dod i'r golwg. A byddi di'n dioddef hefyd, fel petai cleddyf yn trywanu dy enaid di.”

36. Roedd gwraig o'r enw Anna, oedd yn broffwydes, yn y deml yr un pryd. Roedd yn ferch i Phanuel o lwyth Aser, ac yn hen iawn. Roedd hi wedi bod yn weddw ers i'w gŵr farw dim ond saith mlynedd ar ôl iddyn nhw briodi.

37. Erbyn hyn roedd hi'n wyth deg pedair mlwydd oed. Fyddai hi byth yn gadael y deml – roedd hi yno ddydd a nos yn addoli Duw, ac yn ymprydio a gweddïo.

Luc 2