9. Meddai Iesu, “Mae'r bobl sy'n byw yma wedi gweld beth ydy achubiaeth heddiw. Mae'r dyn yma wedi dangos ei fod yn fab i Abraham.
10. Dw i, Mab y Dyn, wedi dod i chwilio am y rhai sydd ar goll, i'w hachub nhw.”
11. Roedd y dyrfa'n gwrando ar bopeth roedd Iesu'n ei ddweud. Gan ei fod yn dod yn agos at Jerwsalem, dwedodd stori wrthyn nhw i gywiro'r syniad oedd gan bobl fod teyrnasiad Duw yn mynd i ddod unrhyw funud.
12. Dyma'r stori: “Roedd rhyw ddyn pwysig aeth i ffwrdd i wlad bell i gael ei wneud yn frenin ar ei bobl.
13. Ond cyn mynd, galwodd ddeg o'i weision ato a rhannu swm o arian rhyngddyn nhw. ‘Defnyddiwch yr arian yma i farchnata ar fy rhan, nes do i yn ôl adre,’ meddai.
14. “Ond roedd ei bobl yn ei gasáu, a dyma nhw'n anfon cynrychiolwyr ar ei ôl i ddweud eu bod nhw ddim eisiau iddo fod yn frenin arnyn nhw.
15. “Ond cafodd ei wneud yn frenin, a phan ddaeth adre galwodd ato y gweision hynny oedd wedi rhoi'r arian iddyn nhw. Roedd eisiau gwybod a oedden nhw wedi llwyddo i wneud elw.
16. Dyma'r cyntaf yn dod, ac yn dweud ei fod wedi llwyddo i wneud elw mawr – deg gwaith cymaint â'r swm gwreiddiol!
17. ‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Rwyt ti'n weithiwr da. Gan dy fod di wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, dw i am dy wneud di'n rheolwr ar ddeg dinas.’
18. “Wedyn dyma'r ail yn dod ac yn dweud ei fod yntau wedi gwneud elw – pum gwaith cymaint â'r swm gwreiddiol.
19. ‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Dw i am dy osod di yn rheolwr ar bum dinas.’
20. “Wedyn dyma was arall yn dod ac yn rhoi'r arian oedd wedi ei gael yn ôl i'w feistr, a dweud, ‘Dw i wedi cadw'r arian yn saff i ti.
21. Roedd gen i ofn gwneud colled gan dy fod di'n ddyn caled. Rwyt ti'n ecsbloetio pobl, ac yn dwyn eu cnydau nhw.’