31. Os bydd rhywun yn gofyn, ‘Pam ydych chi'n ei ollwng yn rhydd?’ dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae'r meistr ei angen.’”
32. Felly i ffwrdd â'r ddau ddisgybl; a dyna lle roedd yr ebol yn union fel roedd Iesu wedi dweud.
33. Wrth iddyn nhw ei ollwng yn rhydd, dyma'r rhai oedd biau'r ebol yn dweud, “Hei! Beth ydych chi'n ei wneud?”
34. “Mae'r meistr ei angen,” medden nhw.
35. Pan ddaethon nhw â'r ebol at Iesu dyma nhw'n taflu eu cotiau drosto, a dyma Iesu'n eistedd ar ei gefn.
36. Wrth iddo fynd yn ei flaen, dyma bobl yn taflu eu cotiau fel carped ar y ffordd.
37. Pan gyrhaeddon nhw'r fan lle mae'r ffordd yn mynd i lawr o Fynydd yr Olewydd, dyma'r dyrfa oedd yn dilyn Iesu yn dechrau gweiddi'n uchel a chanu mawl i Dduw o achos yr holl wyrthiau rhyfeddol roedden nhw wedi eu gweld:
38. “Mae'r Brenin sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr! ”“Heddwch yn y nefoedd a chlod i Dduw yn y goruchaf!”
39. Ond dyma ryw Phariseaid oedd yn y dyrfa yn troi at Iesu a dweud, “Athro, cerydda dy ddisgyblion am ddweud y fath bethau!”
40. Atebodd Iesu, “Petaen nhw'n tewi, byddai'r cerrig yn dechrau gweiddi.”
41. Wrth iddyn nhw ddod yn agos at Jerwsalem dyma Iesu yn dechrau crïo wrth weld y ddinas o'i flaen.
42. “Petaet ti hyd yn oed heddiw ond wedi deall beth fyddai'n dod â heddwch parhaol i ti! Ond mae'n rhy hwyr, a dydy heddwch ddim o fewn dy gyrraedd o gwbl.
43. Mae dydd yn dod pan fydd dy elynion yn codi gwrthglawdd yn dy erbyn ac yn dy gau i mewn ac ymosod arnat o bob cyfeiriad.