16. Dyma'r cyntaf yn dod, ac yn dweud ei fod wedi llwyddo i wneud elw mawr – deg gwaith cymaint â'r swm gwreiddiol!
17. ‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Rwyt ti'n weithiwr da. Gan dy fod di wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, dw i am dy wneud di'n rheolwr ar ddeg dinas.’
18. “Wedyn dyma'r ail yn dod ac yn dweud ei fod yntau wedi gwneud elw – pum gwaith cymaint â'r swm gwreiddiol.
19. ‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Dw i am dy osod di yn rheolwr ar bum dinas.’
20. “Wedyn dyma was arall yn dod ac yn rhoi'r arian oedd wedi ei gael yn ôl i'w feistr, a dweud, ‘Dw i wedi cadw'r arian yn saff i ti.
21. Roedd gen i ofn gwneud colled gan dy fod di'n ddyn caled. Rwyt ti'n ecsbloetio pobl, ac yn dwyn eu cnydau nhw.’
22. “Atebodd y meistr, ‘Dw i'n ddyn caled ydw i – yn ecsbloetio pobl ac yn dwyn eu cnydau nhw? Iawn! Dyna sut cei di dy drin gan dy fod ti'n was da i ddim!
23. Pam wnest ti ddim rhoi'r arian mewn cyfri banc? Byddwn i o leia wedi ei gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’
24. “Felly dyma'r brenin yn rhoi gorchymyn i'r rhai eraill oedd yn sefyll yno, ‘Cymerwch yr arian oddi arno, a'i roi i'r un oedd wedi gwneud y mwya o elw!’
25. “‘Ond feistr,’ medden nhw, ‘Mae gan hwnnw hen ddigon yn barod!’
26. “Atebodd y meistr nhw, ‘Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy; ond am y rhai sy'n gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw'n cael ei gymryd oddi arnyn nhw!
27. Dw i'n mynd i ddelio gyda'r gelynion hynny oedd ddim eisiau i mi fod yn frenin arnyn nhw hefyd – dewch â nhw yma, a lladdwch nhw i gyd o mlaen i!’”
28. Ar ôl dweud y stori, aeth Iesu yn ei flaen i gyfeiriad Jerwsalem.
29. Pan oedd ar fin cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, dwedodd wrth ddau o'i ddisgyblion,
30. “Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen. Wrth fynd i mewn iddo, dewch o hyd i ebol wedi ei rwymo – un does neb wedi bod ar ei gefn o'r blaen. Dewch â'r ebol i mi.
31. Os bydd rhywun yn gofyn, ‘Pam ydych chi'n ei ollwng yn rhydd?’ dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae'r meistr ei angen.’”
32. Felly i ffwrdd â'r ddau ddisgybl; a dyna lle roedd yr ebol yn union fel roedd Iesu wedi dweud.