Luc 18:2-12 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Roedd barnwr yn byw mewn rhyw dref,” meddai, “dyn oedd ddim yn parchu Duw na neb arall.

3. Ac yn yr un dref roedd gwraig weddw oedd yn mynd ato o hyd ac o hyd i ofyn iddo farnu rhywun oedd wedi gwneud niwed iddi.

4. “Chymerodd y barnwr ddim sylw ohoni i ddechrau. Ond yn y diwedd roedd wedi cael hen ddigon – ‘Dw i ddim yn ddyn duwiol a dw i ddim yn poeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohono i.

5. Ond bydd y wraig yma wedi ngyrru i'n wallgof os na wna i beth mae hi eisiau!’”

6. Yna meddai'r Arglwydd, “Gwrandwch, mae gwers i'w dysgu yma.

7. Dych chi'n gwybod beth ddwedodd y barnwr drwg. Felly beth am Dduw? Dych chi ddim yn meddwl y bydd e'n amddiffyn y bobl mae wedi eu dewis iddo'i hun? Fydd e ddim yn oedi! Bydd yn ymateb ar unwaith i'r rhai sy'n galw arno ddydd a nos!

8. Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd yn rhoi dedfryd gyfiawn iddyn nhw, a hynny ar frys! Ond, pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl, faint o bobl fydd yn dal i gredu bryd hynny?”

9. Dwedodd Iesu y stori yma wrth rai pobl oedd yn meddwl eu bod nhw eu hunain mor dduwiol, ac yn edrych i lawr eu trwynau ar bawb arall:

10. “Aeth dau ddyn i weddïo yn y deml. Pharisead oedd un ohonyn nhw, a'r llall yn ddyn oedd yn casglu trethi i Rufain.

11. Dyma'r Pharisead yn sefyll ar ei draed yn hyderus, a dyma oedd ei weddi: ‘O Dduw, dw i yn diolch i ti mod i ddim yr un fath â phobl eraill. Dw i ddim yn twyllo na gwneud dim byd drwg arall, a dw i ddim yn gwneud pethau anfoesol. Dw i ddim yr un fath â'r bradwr yma!

12. Dw i'n ymprydio ddwywaith yr wythnos ac yn rhoi un rhan o ddeg o bopeth sydd gen i i'r deml.’

Luc 18