Luc 17:8-19 beibl.net 2015 (BNET)

8. Na, dych chi'n dweud, ‘Gwna swper i mi gyntaf. Cei di fwyta wedyn.’

9. A dych chi ddim yn diolch iddo, am fod y gwas ddim ond yn gwneud beth mae gwas i fod i'w wneud.

10. Felly chithau – ar ôl gwneud popeth dw i'n ei ofyn, dylech chi ddweud, ‘Dŷn ni'n haeddu dim. Gweision ydyn ni, sydd ddim ond yn gwneud beth mae disgwyl i ni ei wneud.’”

11. Aeth Iesu ymlaen ar ei ffordd i Jerwsalem, a daeth at y ffin rhwng Galilea a Samaria.

12. Wrth iddo fynd i mewn i ryw bentref, dyma ddeg dyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod i'w gyfarfod. Dyma nhw'n sefyll draw

13. ac yn gweiddi'n uchel arno o bell, “Feistr! Iesu! – wnei di'n helpu ni?”

14. Pan welodd Iesu nhw, dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i ddangos eich hunain i'r offeiriaid.” Ac roedden nhw ar eu ffordd i wneud hynny pan wnaeth y gwahanglwyf oedd ar eu cyrff ddiflannu!

15. Dyma un ohonyn nhw'n troi'n ôl pan welodd ei fod wedi cael ei iacháu. Roedd yn gweiddi'n uchel, “Clod i Dduw!”

16. Taflodd ei hun ar lawr o flaen Iesu, a diolch iddo am yr hyn roedd wedi ei wneud. (Gyda llaw, Samariad oedd y dyn!)

17. Meddai Iesu, “Roeddwn i'n meddwl mod i wedi iacháu deg o ddynion. Ble mae'r naw arall?

18. Ai dim ond y Samariad yma sy'n fodlon rhoi'r clod i Dduw?”

19. Yna dwedodd wrth y dyn, “Cod ar dy draed, a dos adre. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.”

Luc 17