Luc 17:24-37 beibl.net 2015 (BNET)

24. Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo'r awyr o un pen i'r llall!

25. Ond cyn i hynny ddigwydd mae'n rhaid i mi ddioddef yn ofnadwy a chael fy ngwrthod gan bobl y genhedlaeth bresennol.

26. “Bydd hi yn union yr un fath â roedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.

27. Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i'r arch. Wedyn daeth y llifogydd a'u dinistrio nhw i gyd!

28. “A'r un fath yn amser Lot. Roedd pobl yn bwyta ac yn yfed, yn prynu a gwerthu, yn ffermio ac yn adeiladu.

29. Ond wedyn pan adawodd Lot Sodom daeth tân a brwmstan i lawr o'r awyr a'u dinistrio nhw i gyd.

30. “Fel yna'n union fydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod i'r golwg.

31. Y diwrnod hwnnw fydd yna ddim cyfle i neb sydd y tu allan i'w dŷ fynd i mewn i bacio ei bethau. A ddylai neb sydd allan yn y maes feddwl mynd adre.

32. Cofiwch beth ddigwyddodd i wraig Lot!

33. Bydd y rhai sy'n ceisio achub eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd yn diogelu bywyd go iawn.

34. Y noson honno bydd dau yn rhannu gwely; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei adael.

35. Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda'i gilydd; bydd un yn cael ei chymryd i ffwrdd a'r llall yn cael ei gadael.”

37. “Arglwydd, ble bydd hyn yn digwydd?” gofynnodd y disgyblion.Atebodd Iesu, “Bydd mor amlwg â'r ffaith fod yna gorff marw lle mae fwlturiaid wedi casglu.”

Luc 17