18. Ai dim ond y Samariad yma sy'n fodlon rhoi'r clod i Dduw?”
19. Yna dwedodd wrth y dyn, “Cod ar dy draed, a dos adre. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.”
20. Un diwrnod, dyma'r Phariseaid yn gofyn i Iesu, “Pryd mae teyrnasiad Duw yn mynd i ddechrau?” Atebodd Iesu, “Does yna ddim arwyddion gweledig yn dangos fod teyrnasiad Duw wedi cyrraedd!
21. Fydd pobl ddim yn gallu dweud, ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ achos mae Duw yma'n teyrnasu yn eich plith chi.”
22. Roedd yn siarad am hyn gyda'i ddisgyblion wedyn, ac meddai, “Mae'r amser yn dod pan fyddwch chi'n dyheu am gael rhyw gipolwg bach o'r dyddiau pan fydda i, Mab y Dyn gyda chi eto, ond byddwch yn methu.
23. Bydd pobl yn honni fod Mab y Dyn wedi dod yn ôl; ‘Mae yma!’ neu ‘Mae draw acw!’ byddan nhw'n ei ddweud. Ond peidiwch gwrando arnyn nhw a mynd allan i edrych amdano.