6. ac yn mynd adre. Wedyn mae'n galw ei ffrindiau a'i gymdogion draw, ac yn dweud wrthyn nhw, ‘Dewch i ddathlu; dw i wedi dod o hyd i'r ddafad oedd wedi mynd ar goll.’
7. Wir i chi, dyna sut mae hi yn y nefoedd – mae mwy o ddathlu am fod un pechadur wedi troi at Dduw nag am naw deg naw o bobl sy'n meddwl eu bod nhw'n iawn a dim angen newid!
8. “Neu petai gan ryw wraig ddeg darn arian, ac yn colli un ohonyn nhw. Byddai hi'n cynnau lamp ac yn mynd ati i lanhau'r tŷ i gyd, a chwilio ym mhob twll a chornel am y darn arian nes iddi ddod o hyd iddo.
9. Pan mae'n dod o hyd iddo, mae'n galw ei ffrindiau a'i chymdogion draw, ac yn dweud wrthyn nhw, ‘Dewch i ddathlu; dw i wedi dod o hyd i'r darn arian oedd wedi mynd ar goll.’
10. Wir i chi, dyna sut mae Duw yn dathlu o flaen ei angylion pan mae un pechadur yn troi ato!”
11. Aeth Iesu yn ei flaen i ddweud stori arall: “Roedd rhyw ddyn a dau fab ganddo.
12. Dyma'r mab ifancaf yn mynd at ei dad a dweud, ‘Dad, dw i eisiau i ti roi fy siâr i o'r ystâd i mi nawr.’ Felly dyma'r tad yn cytuno i rannu popeth oedd ganddo rhwng y ddau fab.
13. “Yn fuan wedyn, dyma'r mab ifancaf yn gwerthu'r cwbl lot, gadael cartref a theithio i wlad bell. Yno gwastraffodd ei arian i gyd ar fywyd gwyllt.
14. Ar ôl iddo golli'r cwbl bu newyn difrifol drwy'r wlad, ac roedd yn dechrau llwgu.
15. Llwyddodd i berswadio rhywun i roi gwaith iddo, a chafodd ei anfon allan i'r caeau i ofalu am foch.
16. Aeth pethau mor ddrwg nes ei fod yn cael ei demtio i fwyta peth o'r bwyd moch! Doedd neb yn rhoi dim arall iddo.