Luc 15:26-32 beibl.net 2015 (BNET)

26. Galwodd fachgen ifanc ato, a gofyn iddo beth oedd yn digwydd.

27. ‘Mae dy frawd yma!’ meddai hwnnw, ‘Mae dy dad wedi lladd y llo oedd wedi ei besgi i ddathlu ei fod wedi ei gael yn ôl yn saff.’

28. “Ond dyma'r mab hynaf yn digio, a gwrthod mynd i mewn. Felly dyma'i dad yn dod allan a chrefu arno i fynd i mewn.

29. Ond meddai wrth ei dad, ‘Edrych! Dw i wedi slafio ar hyd y blynyddoedd yma, heb erioed wrthod gwneud unrhyw beth i ti. Ches i erioed fyn gafr gen ti i gael parti gyda fy ffrindiau!

30. Ond dyma hwn yn dod adre – y mab yma sydd gen ti – yr un sydd wedi gwastraffu dy arian di i gyd ar buteiniaid. O! mae'n rhaid i ti ladd y llo sydd wedi ei besgi i hwn!’

31. “‘Machgen i,’ meddai'r tad wrtho, ‘rwyt ti yma bob amser, a ti sydd biau popeth sydd gen i ar ôl.

32. Ond roedd rhaid i ni ddathlu – roedd dy frawd wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dŷn ni wedi ei gael yn ôl!’”

Luc 15