Luc 12:12-21 beibl.net 2015 (BNET)

12. Bydd yr Ysbryd Glân yn dangos i chi beth i'w ddweud yn y fan a'r lle.”

13. Yna dyma rywun o ganol y dyrfa yn galw arno, “Athro, mae fy mrawd yn gwrthod rhannu'r eiddo mae dad wedi ei adael i ni. Dywed wrtho am ei rannu.”

14. Atebodd Iesu, “Ffrind, pwy wnaeth fi yn farnwr neu'n ganolwr i sortio rhyw broblem felly rhyngoch chi'ch dau?”

15. Yna dwedodd, “Gwyliwch eich hunain! Mae'r awydd i gael mwy a mwy o bethau yn beryglus. Dim faint o bethau sydd gynnoch chi sy'n rhoi bywyd go iawn i chi.”

16. A dwedodd stori wrthyn nhw: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn berchen tir, a chafodd gnwd arbennig o dda un cynhaeaf.

17. ‘Does gen i ddim digon o le i storio'r cwbl,’ meddai. ‘Beth wna i?’

18. “‘Dw i'n gwybod! Tynnu'r hen ysguboriau i lawr, ac adeiladau rhai mwy yn eu lle! Bydd gen i ddigon o le i storio popeth wedyn.

19. Yna bydda i'n gallu eistedd yn ôl a dweud wrtho i'n hun, “Mae gen i ddigon i bara am flynyddoedd lawer. Dw i'n mynd i ymlacio a mwynhau fy hun yn bwyta ac yn yfed.”’

20. “Ond dyma Duw yn dweud wrtho, ‘Y ffŵl dwl! Heno ydy'r noson rwyt ti'n mynd i farw. Pwy fydd yn cael y cwbl rwyt ti wedi ei gasglu i ti dy hun?’

21. “Ie, fel yna bydd hi ar bobl sy'n casglu cyfoeth iddyn nhw eu hunain ond sy'n dlawd mewn gwirionedd, am eu bod heb Dduw.”

Luc 12