Luc 10:7-16 beibl.net 2015 (BNET)

7. Peidiwch symud o gwmpas o un tŷ i'r llall; arhoswch yn yr un lle, gan fwyta ac yfed beth bynnag sy'n cael ei roi o'ch blaen chi. Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog.

8. “Os byddwch yn cael croeso mewn rhyw dref, bwytwch beth bynnag sy'n cael ei roi o'ch blaen chi.

9. Ewch ati i iacháu y rhai sy'n glaf yno, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw ar fin dod i deyrnasu.’

10. Ond os ewch i mewn i ryw dref heb gael dim croeso yno, ewch allan i'w strydoedd a dweud,

11. ‘Dŷn ni'n sychu llwch eich tref chi i ffwrdd oddi ar ein traed ni, fel arwydd yn eich erbyn chi! Ond gallwch fod yn reit siŵr o hyn – bod Duw ar fin dod i deyrnasu!’

12. Wir i chi, bydd hi'n well ar Sodom ar ddydd y farn nag ar y dref honno!

13. “Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petai'r gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddai'r bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar, trwy eistedd ar lawr yn gwisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau.

14. Bydd hi'n well ar Tyrus a Sidon ar ddydd y farn nag arnoch chi!

15. A beth amdanat ti, Capernaum? Wyt ti'n meddwl y byddi di'n cael dy anrhydeddu? Na, byddi di'n cael dy fwrw i lawr i'r dyfnder tywyll!

16. “Mae pwy bynnag sy'n gwrando ar eich neges chi yn fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n eich gwrthod chi yn fy ngwrthod i hefyd. Ac mae pwy bynnag sy'n fy ngwrthod i yn gwrthod Duw, yr un sydd wedi fy anfon i.”

Luc 10