Luc 10:22-31 beibl.net 2015 (BNET)

22. “Mae fy Nhad wedi rhoi popeth yn fy ngofal i. Does neb yn nabod y Mab go iawn ond y Tad, a does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, a'r rhai hynny mae'r Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw.”

23. Pan oedden nhw ar eu pennau eu hunain trodd at ei ddisgyblion a dweud, “Dych chi'n cael y fath fraint o weld beth sy'n digwydd!

24. Dw i'n dweud wrthoch chi fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi bod yn ysu am gael gweld beth dych chi'n ei weld a chlywed beth dych chi'n ei glywed, ond chawson nhw ddim.”

25. Un tro safodd un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith ar ei draed i roi prawf ar Iesu. Gofynnodd iddo, “Athro, beth sydd raid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?”

26. Atebodd Iesu, “Beth mae Cyfraith Moses yn ei ddweud? Sut wyt ti'n ei deall?”

27. Meddai'r dyn: “‘Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, â'th holl nerth ac â'th holl feddwl,’ a, ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.’”

28. “Rwyt ti'n iawn!” meddai Iesu. “Gwna hynny a chei di fywyd.”

29. Ond roedd y dyn eisiau cyfiawnhau ei hun, felly gofynnodd i Iesu, “Ond pwy ydy fy nghymydog i?”

30. Dyma sut atebodd Iesu: “Roedd dyn yn teithio i lawr o Jerwsalem i Jericho, a dyma ladron yn ymosod arno. Dyma nhw'n dwyn popeth oddi arno, ac yna ei guro cyn dianc. Cafodd ei adael bron marw ar ochr y ffordd.

31. Dyma offeiriad Iddewig yn digwydd dod heibio, ond pan welodd y dyn yn gorwedd yno croesodd i ochr arall y ffordd a mynd yn ei flaen.

Luc 10