1. Ar ôl hyn dyma Iesu'n penodi saith deg dau o rai eraill a'u hanfon o'i flaen bob yn ddau i'r lleoedd roedd ar fin mynd iddyn nhw.
2. Meddai wrthyn nhw, “Mae'r cynhaeaf mor fawr, a'r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i'w feysydd.
3. Ewch! Dw i'n eich anfon chi allan fel ŵyn i ganol pac o fleiddiaid.
4. Peidiwch mynd â phwrs na bag teithio na sandalau gyda chi; a pheidiwch stopio i gyfarch neb ar y ffordd.
5. “Pan ewch i mewn i gartre rhywun, gofynnwch i Dduw fendithio'r cartref hwnnw cyn gwneud unrhyw beth arall.
6. Os oes rhywun yna sy'n agored i dderbyn y fendith, bydd yn cael ei fendithio; ond os oes neb, bydd y fendith yn dod yn ôl arnoch chi.
7. Peidiwch symud o gwmpas o un tŷ i'r llall; arhoswch yn yr un lle, gan fwyta ac yfed beth bynnag sy'n cael ei roi o'ch blaen chi. Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog.
8. “Os byddwch yn cael croeso mewn rhyw dref, bwytwch beth bynnag sy'n cael ei roi o'ch blaen chi.
9. Ewch ati i iacháu y rhai sy'n glaf yno, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw ar fin dod i deyrnasu.’
10. Ond os ewch i mewn i ryw dref heb gael dim croeso yno, ewch allan i'w strydoedd a dweud,
11. ‘Dŷn ni'n sychu llwch eich tref chi i ffwrdd oddi ar ein traed ni, fel arwydd yn eich erbyn chi! Ond gallwch fod yn reit siŵr o hyn – bod Duw ar fin dod i deyrnasu!’
12. Wir i chi, bydd hi'n well ar Sodom ar ddydd y farn nag ar y dref honno!
13. “Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petai'r gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddai'r bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar, trwy eistedd ar lawr yn gwisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau.