Luc 1:9-17 beibl.net 2015 (BNET)

9. A fe oedd yr un gafodd ei ddewis, trwy daflu coelbren, i losgi arogldarth wrth fynd i mewn i'r cysegr. (Taflu coelbren oedd y ffordd draddodiadol roedd yr offeiriaid yn ei defnyddio i wneud y dewis.)

10. Pan oedd yn amser i'r arogldarth gael ei losgi, roedd yr holl bobl oedd wedi dod yno i addoli yn gweddïo y tu allan.

11. Roedd Sachareias wrthi'n llosgi'r arogldarth, ac yn sydyn gwelodd un o angylion yr Arglwydd o'i flaen yn sefyll ar yr ochr dde i'r allor.

12. Roedd Sachareias wedi dychryn am ei fywyd.

13. Ond dyma'r angel yn dweud wrtho: “Paid bod ofn, Sachareias; mae Duw wedi clywed dy weddi. Mae Elisabeth dy wraig yn mynd i gael plentyn – dy fab di! Ioan ydy'r enw rwyt i'w roi iddo,

14. a bydd yn dy wneud di'n hapus iawn. A bydd llawer iawn o bobl eraill yn llawen hefyd am ei fod wedi ei eni.

15. Bydd e'n was pwysig iawn i'r Arglwydd Dduw. Fydd e ddim yn yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol, ond bydd wedi cael ei lenwi â'r Ysbryd Glân hyd yn oed cyn iddo gael ei eni.

16. Bydd yn troi llawer iawn o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw.

17. Gyda'r un ysbryd a nerth a oedd gan y proffwyd Elias bydd yn mynd allan i gyhoeddi fod yr Arglwydd yn dod, ac yn paratoi'r bobl ar ei gyfer. Bydd yn gwella perthynas rhieni â'u plant, ac yn peri i'r rhai sydd wedi bod yn anufudd weld mai byw yn iawn sy'n gwneud synnwyr.”

Luc 1