Luc 1:54-65 beibl.net 2015 (BNET)

54. Mae wedi helpu ei was Israel,a dangos trugaredd at ei bobl.

55. Dyma addawodd ei wneud i'n cyndeidiau ni –dangos trugaredd at Abraham a'i ddisgynyddion am byth.”

56. Arhosodd Mair gydag Elisabeth am tua tri mis cyn mynd yn ôl adre.

57. Pan ddaeth yr amser i fabi Elisabeth gael ei eni, bachgen bach gafodd hi.

58. Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau y newyddion, ac roedden nhw i gyd yn hapus hefyd fod yr Arglwydd wedi bod mor garedig wrthi hi.

59. Wythnos ar ôl i'r babi gael ei eni roedd pawb wedi dod i seremoni enwaedu y bachgen, ac yn cymryd yn ganiataol mai Sachareias fyddai'n cael ei alw, yr un fath â'i dad.

60. Ond dyma Elisabeth yn dweud yn glir, “Na! Ioan fydd ei enw.”

61. “Beth?” medden nhw, “Does neb yn y teulu gyda'r enw yna.”

62. Felly dyma nhw'n gwneud arwyddion i ofyn i Sachareias beth oedd e eisiau galw ei fab.

63. Gofynnodd am lechen i ysgrifennu arni, ac er syndod i bawb, ysgrifennodd y geiriau “Ioan ydy ei enw.”

64. Yr eiliad honno cafodd ei allu i siarad yn ôl, a dechreuodd foli Duw.

65. Roedd ei gymdogion i gyd wedi eu syfrdanu, ac roedd pawb drwy ardal bryniau Jwdea yn siarad am beth oedd wedi digwydd.

Luc 1